Lleoliad:
Hybrid -
Ystafell Bwyllgora 2, Senedd a fideogynadledda drwy
Zoom
Dyddiad:
Dydd Mercher, 28 Chwefror
2024
Amser:
09.30 -
11.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13836
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Heledd Fychan AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru Owain Lloyd, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Michael Dauncey (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Nododd y Cadeirydd fod yn rhaid i James Evans AS adael y cyfarfod am 11.30.
2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog yn y meysydd o fewn ei bortffolio.
2.2 Cytunodd y
Gweinidog i ddarparu nodyn ar y canlynol:
- Edrych ymhellach ar ddata Rhwydwaith Seren mewn perthynas â'r disgyblion hynny nad ydynt efallai'n parhau ar y rhaglen, i nodi a oes unrhyw dueddiadau mewn perthynas â'u perfformiad dilynol a'u hymgysylltiad â'u dysgu;
- Darparu rhagor o wybodaeth am sut y gellir annog a chynyddu'r niferoedd sy'n astudio Cymraeg Safon Uwch, yn enwedig mewn perthynas ag addysgu a chynnwys y maes llafur;
- Darparu gwybodaeth am yr ymchwil a wnaed, a’r canllawiau a gyhoeddwyd, ynglŷn â sut y gallai ysgolion ddarparu addysgu a dysgu digidol o bell pe bai angen am hyn eto yn y dyfodol;
- Cadarnhau pryd y rhagwelir y cyhoeddir y canllawiau cryfach ar Deithio gan Ddysgwyr;
- Ystyried ymhellach sut y gellir adrodd yn ôl ar waith y Tasglu Presenoldeb i’r Senedd a/neu’r Pwyllgor;
- Rhannu'r data cyfranogiad e-sgol; a
- Rhannu, pan fydd ar gael, gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y dull ysgol gyfan.
3.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
4.1 Derbyniwyd y
cynnig.
5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywodd yn y sesiwn graffu.
5.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog i wneud gwaith dilynol ar rai o'r pwyntiau a godwyd.
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei thrafod yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.